ar lawr o fy mlaen yn disgleirio yn mhelydrau yr haul sofren a haner. Dychrynais, ac aethum rai camrau ymlaen gan eu gadael. Ail feddyliais, a throais yn ol a chodais hwy. Bellach. ni wyddwn beth i'w wneyd. Tybiwn weithiau mai rhyw angel oedd wedi d'od a hwy yno yn ddistaw. Pryd arall ofnwn mai rhyw fugail tlawd oedd wedi eu colli, ac mai fy nyledswydd oedd eu rhoddi i ryw un i'w cadw nes rhoddi hysbysrwydd, fel y gallo eu gwir berchenog eu cael. Yn llawn cynwrf meddwl gan bethau fel hyn y cyrhaeddais dref y Bala. Penderfynais ymgynghori â Mr. Charles, a dywedais yr oll wrtho, gan ofyn iddo beth fyddai oreu i mi wneyd â'r arian. Dywed- odd yntau, 'Credu yr wyf mai dy Dad Nefol a'u hanfonodd i ti, Daniel, ac na phetrusa dalu â hwy dy ddyled i'th chwaer.' 'Aros yma am funyd,' ebe fe wed'yn, 'deuaf yn ol yma atat. yn union deg.' Ac felly y daeth, a boneddwr dieithr i mi gydag ef, a gofynodd Mr. Charles i mi adrodd yr hanes fel yr oedd wedi digwydd. Ac fel yr oeddwn yn adrodd, dylanwadai yr hanes yn fawr ar deimladau y boneddwr. Yr oedd yn wylo yn hidl, ac aeth i'w logell, a rhoddodd bapyr pum' punt yn anrheg i mi." A dywedai Daniel Evans na fu arno brinder mawr am arian byth ar ol hyny.
Ymhen pum' mlynedd wedi dechreu ar ei waith gyda'r ysgol symudol, sef yn 1813, y daeth gyntaf i Benrhyndeudraeth i gadw ysgol. Mae yn debyg iddo aros yno fwy na blwyddyn y tro hwn. Yr oedd yn meddu ar gymhwysder neillduol i fod yn ysgolfeistr yn yr oes yr oedd yn byw ynddi. Nodwedd yr oes oedd fod yn rhaid curo yn ddidrugaredd; derbyniai pob plentyn ddeugain gwïalenod ond un, pa un bynag fyddai achos yn galw ai peidio. Ond medrai Daniel Evans ddysgu y plant trwy eu denu, ac heb eu curo. Yr oedd y fath addfwynder yn ei natur, anhawdd ydyw credu y gallasai ddefnyddio y wïalen, pe buasai y brenin Nebuchodonosor yn gorchymyn. Yr oedd yn boblogaidd iawn gyda'r plant