oblegid ei hynawsedd, ac enillai hefyd gefnogaeth a chydweithrediad eu rhieni, ar gyfrif yr un rhesymau. Yr oedd amryw hen bobl yn byw yn y Penrhyn, yn bur ddiweddar, y rhai a'i cofient yno yn cadw ysgol y tro cyntaf, a thystiolaeth unfrydol y cyfryw ydoedd fod galar mawr yn y Penrhyn y diwrnod yr oedd Daniel Evans yn ymadael. Hebryngai nifer mawr o bobl a phlant ef ran o'r ffordd, wylai y plant, ac wylai y bobl, ac nid yn fynych y gwelwyd cymaint o wylo ar ymadawiad neb â'r diwrnod hwnw.
Bu yn cadw ysgol hefyd yn y Gwynfryn, yn agos i Ddyffryn Ardudwy, yn amser Mr. Charles, neu ymhen ychydig ar ol ei farw. Byddai y plant yn hoff o hono yno, ar gyfrif ei dynerwch a'i addfwynder; ni fynent er dim ei golli o'r ardal. Un o'i ysgolheigion a adroddai yr hanesyn canlynol i brofi hyny: Wedi dal y plant ar fai un diwrnod, cymerai Daniel Evans arno ei fod yn ymadael o'r ardal. Y plant yn gweled hyny a ddechreuasant wylo. Ond nid oedd dim yn tycio, casglodd yr ysgolfeistr y gwahanol bethau oedd ganddo ynghyd, ac a'u gwnaeth yn becyn, i osod argraff ar eu meddwl ei fod yn benderfynol o ymadael. Dechreuodd un oedd yno mewn oed, pa fodd bynag, eiriol dros y plant, ac addawodd fyned yn feichiau na fyddent ddim yn blant drwg mwyach. Wnai hyny mo'r tro, heb gael dyn arall o'r pentref i roddi ei air drostynt; ac wedi cael dau i ymrwymo yn feichiafon na byddai y plant ddim yn blant drwg mwyach, addawodd aros yno am dymor yn hwy. Felly, trwy gyfrwysdra a diniweidrwydd yr ysgolfeistr addfwyn, crewyd diwygiad yn y plant o hyny allan. Yr un a addroddai yr hanesyn uchod ydoedd, Samuel Jones dduwiol a nefolaidd, yr hwn a fu yn flaenor eglwysig am dros ddeng mlynedd ar hugain, ac yn flaenor y gân yn Eglwys y Gwynfryn, am 55 mlynedd. Bu farw Ebrill 23,1890, yn 81 mlwydd oed. Yr oedd ef yn llygad-dyst o'r drafodaeth rhwng yr ysgolfeistr a'r plant yn y Gwynfryn.