Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn y Penrhyn y dechreuodd Daniel Evans bregethu, yn y flwyddyn 1814, a hyny yn bur ddi-seremoni. Yr oedd yn perthyn i Eglwys y Penrhyn y pryd hwn ddau flaenor pur hynod, Ellis Humphreys a Robert Ellis. Yr oedd gair y ddau hen flaenor yn ddeddf ar bob peth yn yr Eglwys. Un nos Sabboth, yn y flwyddyn uchod, wedi myned i'r cyfarfod gweddi, daeth y ddau hen flaenor, Ellis Humphreys a Robert Ellis, at yr ysgolfeistr, a dywedasant wrtho, "Rhaid i ti bregethu i ni heno, Daniel." "Na, yn wir," meddai yntau, "Nis gallaf; ni fum i erioed yn pregethu, nac yn meddwl am hyny yn awr, ychwaith." "O, medri, o'r goreu," meddynt hwythau; "Ni dy helpwn ni di." Gwthiasant ef i'r pulpud, a dywedasant, "Canmol dy oreu ar Iesu Grist, Daniel bach." Yn cael ei orfodi fel hyn, anturiodd i dreio, a chafodd hwyl pur dda y tro cyntaf. Torodd un o'r chwiorydd allan i orfoleddu. Ar y diwedd, cyfododd Ellis Humphreys i fyny i gyhoeddi, a'r peth cyntaf a ddywedodd ydoedd, "Bydd Daniel yma yn pregethu eto y Sabboth nesaf." Addefai ef ei hun fod yn dda ganddo glywed yr hen flaenor yn ei gyhoeddi, a thybiai ei hun yn glamp o bregethwr. Bu yn ddiwyd ar hyd yr wythnos ddilynol yn parotoi at bregethu drachefn; ac erbyn nos Sadwrn, yr oedd y bregeth wedi ei gorphen. Wedi darllen a gweddio, cymerodd ei destyn, ac ar ol gair neu ddau o ragymadrodd, collodd y cyfan. Er treio, a disgwyl am oleuni, nid oedd dim goleuni yn dyfod; aeth yn dywyll fel y fagddu arno. Ac mewn llais crynedig, bu gorfod arno ofyn i'r blaenoriaid enwi rhai o'r brodyr i fyned i weddi. Aeth yntau allan, ac i'r ty, ac ar ei union i'w wely. Nid oes wybodaeth dros ba hyd y bu yn ei wely, na pha bryd yr anturiodd bregethu drachefn. "Dyna y tro mwyaf bendithiol i mi," arferai ddywedyd, "o holl ddigwyddiadau fy mywyd." Rywbryd ar ol hyn bu am dymor byr yn Ngwrecsam, gyda'r Parch. John Hughes, wedi hyny o Liverpool, yr hwn ar y