Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

John Peters, Trawsfynydd, yn cael eu derbyn. Ordeiniwyd Daniel Evans i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1831. Fel pregethwr, ni ystyrid ef yn fawr, ac ar yr un cyfrif ni honai yntau ei hun unrhyw fawredd. Er hyny, yr oedd yn gymeradwy iawn gan y saint. Y gwlith tyner oedd ei weinidogaeth, ac nid y gwlaw mawr. Cyfranai fara y bywyd bob amser, yn ffordd ac ysbryd yr Efengyl. Credai pawb nad oedd neb duwiolach na Daniel Evans yn holl Sir Feirionydd. Mae ei ymddangosiad diymhongar, patriarchaidd, o flaen ein golwg, a'i dôn fach, leddf, yn swnio yn ein clustiau hyd heddyw. Ond nid oedd digon o swn ganddo yn y pulpud i fod yn uchel yn syniad y plant. A theimlent yn ddig wrth eu rhieni am iddynt ei osod ef a Richard Roberts, Dolgellau, i'w bedyddio, mewn amser pryd nad oedd ganddynt hwy ddim gallu i ddangos gwrthwynebiad. O'r tu arall, os deuent i wybod—a pha beth sydd na ddaw plant o hyd i wybod—mai Cadwaladr Owen, neu John Jones, Talysarn, a'u bedyddiodd, teimlent yn sicr fod eu rhieni wedi dangos ffafraeth iddynt hwy, a theimlent eu bod fel plant byth wed'yn uwchlaw y plant eraill. Byddai yn arferiad gan Daniel Evans yn fynych: ar ddiwedd paragraph yn ei bregeth, i wneuthur y sylw,— "Rhyw bethau plaen fel ene, fydd gen i." Fe allai y ceir engraifft lled gywir o'i ddull hamddenol o bregethu, yn ei bregeth ar y geiriau, "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi." Y mae rhai, meddai, yn ymrwystro gydag anhawsderau crefydd, yn digio am na fedrant ddeall ei phethau mawr hi, ac felly ni fynant ddim o'r pethau hawdd sydd yn perthyn iddi. Yr un fath ag y gwelwch chwi ambell un yn ceisio myned trwy y traeth yna i'r ochr draw. Mae yna ryd hwylus, pwrpasol i fyned trwodd; ond y mae yna lynau, a phyllau peryglus hefyd. Mae ambell un wedi dyfod at yr afon yn dychrynu, a digaloni, ac yn troi yn ei ol; pe buasai ond myned ychydig bach o latheni yn mhellach, fe ddaethai