at y rhyd. Felly y mae llawer yn ymrwystro gydag etholedigaeth, a chyfiawnhad, a sancteiddhad. Ond enaid anwyl, dyma ti ryd sych i fyned trwyddo,—"Cred yn yr Arglwydd. Iesu Grist."
"Un rhinwedd neillduol yn Daniel Evans, fel pregethwr," ebai y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, "ac feallai mai hwnw oedd y gwerthfawrocaf gan lawer, ni byddai un amser yn faith. Nis gwyddom ond am ddau beth ag y mae y lliaws yn caru cael mesur byr o honynt, sef milldir fer, a phregeth fer, a byddent yn cael pregeth fer ganddo ef bob amser."
Daniel Evans oedd y llareiddiaf o'r holl frodyr yn y sir yn y dyddiau gynt. Ond medrai yntau fod yn llwynog ac yn llew weithiau. Ceir engraifft o hono yn ymddwyn fel y llew un tro, mewn cysylltiad a sefydliad y fugeiliaeth yn y sir. Yr oedd yr hen bobl wedi cynefino cymaint & ffordd y teithio, a moddion rhad i gario yr achos ymlaen, fel mai gwaith aruthrol fawr ydoedd symud yr eglwysi o'r hen ddull i'r ffordd bresenol. Er ceisio rhoddi cychwyniad rywfodd i'r symudiad bugeiliol gosododd Mr. Morgan, o'r Dyffryn, mewn undeb a'r brodyr blaenaf yn Ngorllewin Meirionydd, gynllun ar droed, sef fod i bob eglwys ddewis gweinidog neu. bregethwr o'i dewisiad ei hun, i gadw cyfarfod eglwysig unwaith yn y mis, ac i arolygu cymaint ag a ellid ar yr eglwysi. Dros un flwyddyn yn unig yr oedd y dewisiad i barhau, ac ail ddewisiad i fod ar derfyn y flwyddyn. Yr oedd Daniel Evans, trwy benodiad y Cyfarfod Misol, ar ymweliad âg eglwys, heb fod ymhell o'r Dyffryn (ar yr hon yr oedd Mr. Morgan wedi bod yn arolygwr yn ol y cynllun newydd, y flwyddyn flaenorol), a gofynai ar ddiwedd y cyfarfod eglwysig, "A ydych chwi yma am i'r fugeiliaeth gael ei chario ymlaen. y flwyddyn hon ar yr un cynllun a'r flwyddyn ddiweddaf?' Ac meddai un brawd mewn atebiad, yr hwn hefyd oedd yn un