o flaenoriaid yr eglwys, "Nac ydwyf fi, o'm rhan i, yn hidio dim am y cynllun-nid wyf fi yn ei weled yn ddim byd ond twll i wneyd poced." "Hwn a hwn," ebe Daniel Evans, gan gau ei ddwrn, a chodi ei fraich i fyny, "mi fydda i yn dyst yn eich erbyn yn y farn, mai nid gwneyd arian ydyw ein hamcan ni y gweinidogion, ond ein hunig amcan ydyw lles a llwyddiant yr eglwysi."
Bu Daniel Evans yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol am chwe blynedd, o 1840 i 1846. Pan ranwyd Cyfarfod Misol Sir Feirionydd yn ddau, yn nechreu 1840, Mr. John Jones, Plasucha, Talsarnau, a osodwyd yn ysgrifenydd, ac yn ei lawysgrif ef y mae y Cofnodion am y troion cyntaf. Ond cyn diwedd y flwyddyn hono, symudodd ef i fyw i Ynysgain, ger Criccieth. Ar ei ol ef, y mae y Parch. Daniel Evans, y pryd hwnw o Harlech, yn dechreu ar ei waith. Nid oedd wedi bod yn ysgrifenydd ond am dro neu ddau, pan y galwyd arno i ysgrifenu i lawr yn Llyfr y Cofnodion y penderfyniad canlynol: Cyfarfod Misol Talsarnau, yr hwn a gynhaliwyd Rhagfyr 1af a'r 2il, 1840.-"Penderfynwyd fod i'r Parch. Robert Griffith, Dolgellau; Cadben William Griffith, Abermaw; a William Richard, Gwynfryn, fyned i'r Dyffryn, ar gais yr eglwys yno, i ymddiddan â gwr ieuanc sydd ar ei feddwl i ddechreu pregethu." Y gwr ieuanc hwn ydoedd y Parch. Edward Morgan, yr hwn, trwy ymroddiad mawr, ei dalent ddisglaer, a'i hyawdledd digyffelyb, a ddaeth, cyn pen ychydig iawn o flynyddoedd, i wefreiddio cynulleidfaoedd ei wlad, ac i gael ei gydnabod gan bawb yn un o enwogion penaf Cymru.
Yr oedd ffyddlondeb a chywirdeb Daniel Evans, yn ei wneuthur yn ysgrifenydd diogel. Ond byr ydyw y cofnodion a ysgrifenodd; hanes pob Cyfarfod Misol yr un faint, o ran hyd-Mis Ionawr a mis Awst gellid tybio yn cynwys yr un faint o waith—oll yn myned i un tudalen o'r llyfr, mewn