Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD VII.

Y PARCH. THOMAS OWEN, WYDDGRUG.

Richard Owen y gweddiwr hynod—Mr. Charles mewn perygl am ei fywyd—Darluniad o ffordd Mynydd Migneint—Richard Owen yn gweddio am estyniad o 15 mlynedd at oes Mr. Charles—Hanes bywyd Richard Owen—Bore oes Thomas Owen — Ei hanes yn dechreu pregethu—Cynghorion Mr. Charles a'i dad ei hun iddo—Yn dechreu cadw yr Ysgol Gylchynol yn 1802—Helbul yn ysgol Llanfor—Yn enill llawer at Grist—Odfa galed yn Abergynolwyn—Hynodrwydd ei fywyd.

UN o blant y Bala oedd y gwr hwn eto. O'r Bala yr anfonwyd ef allan i fod yn un o'r ysgolfeistriaid. Fel Thomas Owen, y Bala, yr adnabyddid ef dros hir amser wedi iddo ddechreu pregethu. Rhan gymhariaethol fechan yn niwedd ei oes, fel y ceir gweled yn mhellach ymlaen, a dreuliodd yn y Wyddgrug. Rhyfedd fel y mae chwe' blynedd a deugain—canys hyny o amser sydd er pan fu farw—wedi cario ei enw mor bell i dir anghof. Ar wahan i'r ffaith iddo fod yn un o Ysgolfeistriaid Mr. Charles, mae ei hanes ef a'i hynod dad yn werth gwneuthur coffa am danynt.

Mab ydoedd Thomas Owen i Richard Owen, o'r Bala, y gweddiwr hynod, yr hwn a fu yn gweddio gyda'r fath daerineb am arbediad bywyd Mr. Charles, pan yr oedd mewn perygl o golli ei fywyd. Credid yn gyffredinol i'r weddi hono gael ei gwrando, canys estynwyd pymtheng mlynedd yn oes y gwr enwog yr oedd y fath bryder yn ei gylch, yn ol y deisyfiad uniongyrchol oedd yn y weddi. Mae yr hanes anghyffredin hwnw yn myned o hyd yn llai hysbys trwy dreigliad blynyddoedd, er nad anghofiwyd ac na anghofir byth mo'r amgylchiad. Dywedir yn y Cofiant gan y Parch. Thomas Jones, o Ddin-