Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bych, fod Mr. Charles wedi ei gynysgaeddu â "chryn radd o rym ac iechyd corfforol," ac y byddai yn arfer a theithio, trwy lawer o anghyfleusderau ac ar bob tywydd garw gyda gwaith yr Arglwydd. "Ond yn fuan ar ol dechreu y gauaf oer yn 1799, wrth deithio ar noswaith oerlem dros fynydd Migneint, ar ei ddychweliad o Sir Gaernarfon, ymaflodd oerfel dwys yn mawd ei law aswy, yr hwn a barodd ddolur maith a gofidus. Ar ol gwneyd prawf o amryw foddion a medr amryw feddygon, ac, yn olaf, un enwog yn Nghaerlleon, bu raid iddo, yn y diwedd, ddychwelyd adref a goddef ei thori, neu yn hytrach ei chodi ymaith."

Llawer o ddyfalu fu y flwyddyn hon (1895)— blwyddyn o rew ac eira ac oerni mawr—pa bryd y bu tymor cyffelyb o'r blaen. Mae y dyfyniad uchod yn rhoddi ar ddeall i ni fod blwyddyn olaf y ganrif ddiweddaf, o leiaf, yn debyg iddi. Mor agos hefyd oedd y fan y bu yn gyfyng ar y gwr enwog o'r Bala y flwyddyn hono i'r lle y claddwyd y trên yn yr eira eleni, ac y bu yno dros amryw ddyddiau, a'r lluwchfeydd eira yn gymaint, yn ol adroddiad y newyddiaduron, fel nad oedd golwg i'w gael ar gwr uchaf corn simdda yr agerbeiriant.[1] Ar Fynydd Migneint y bu y naill ddigwyddiad a'r llall. Ond gymaint yn fwy anhawdd ac anniben oedd teithio yn amser Mr. Charles. Nid oedd son y pryd hwnw am reilffordd nac agerbeiriant; dau droed neu gefn y ceffyl fyddai y moddion mwyaf cyfleus i dramwyo ffyrdd anhygyrch dros fynydd a gwlad. Cymer y rheilffordd sydd yn cysylltu y Bala â Ffestiniog yr un cyfeiriad a ffordd fawr Mynydd Migneint,

hyd nes y cyrhaedda i ben y mynydd. Ond nid ydyw y rheil-

  1. Yr oedd yr eira mor drwchus, ac yn parhau mor hir ar y ddaear yn ngauaf 1895, fel y bu cerbydau y rheilffordd dros rai dyddiau yn gladdedig 'ynddo, ac fe ddigwyddodd hyn yn agos i'r fan lle rhewodd llaw Mr. Charles yn 1799.