Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffordd yn myned ond megis dros wddf y mynydd, gan gymeryd ei rhedfa i lawr heibio Trawsfynydd, ac ymlaen i Ffestiniog. Arweinia yr hen ffordd fawr, fyddai yn yr amser gynt yn dramwyfa o Sir Gaernarfon, trwy Ffestiniog i'r Bala, ar draws neu ar hyd cefn uchaf Mynydd Migneint, a chyfrifid ei hyd, o fewn terfynau y mynydd yn unig, sef o Bont-yr-Afon-Gam i Bont Taihirion, yn chwe' milldir. Wrth deithio yn y gerbydres o'r Bala tua Ffestiniog, pan agos a chyraedd i dop y mynydd, os edrychir at lechwedd uchaf y mynydd tua'r gogledd, gwelir cipdrem ar hen ffordd Mynydd Migneint, yn rhedeg ar hyd y llechwedd a elwir Llechwedd-deiliog. Croesi adref i'r Bala ar hyd y ffordd acw, ar noswaith arw, oer, yr oedd yr enwog Mr. Charles, pan y rhewodd ei law. Bu Dr. Edwards a Dr. Parry yn teithio llawer ar hyd yr un ffordd, gyda'r gwaith o gludo yr efengyl y tu draw i'r mynydd, a llu o efengylwyr eraill, a thô ar ol to o efrydwyr y Bala, yn ol desgrifiad Glan Alun, rhai ar draed, eraill ar feirch, eraill mewn cerbydau. Cofir gan efrydwyr deg ar hugain a phymtheng mlynedd ar hugain yn ol, fel y byddent hwy a Dr. Edwards yn yr un cerbyd yn croesi y mynydd aml i ddydd. Llun ystormus, ac, wedi cyraedd yr ochr agosaf i'r Bala, yn disgyn yn Rhydyfen, i orphwys ac i ymdwymno wrth danllwyth o dân, ac i gymeryd lluniaeth, yr hwn a barotoid yn fedrus a chroesawus gan Mrs. Williams, a'i merch Miss Williams, yn awr Mrs. Jones, yr hon sydd er ys rhai blynyddau. wedi symud o Rhydyfen i fyw i Ddyffryn Clwyd. Mor chwyldroadol yn awr, i'r rhai a arferent deithio yn yr hen ddull arafaidd, ydyw gweled y gerbydres gyda'i llwyth trwm yn llamu i fyny y mynydd, ac yn chwyrnellu i lawr i'r ochr draw gyda gwylltineb ffyrnicach.

Unwaith, o leiaf, yn nghof yr ysgrifenydd, digwyddodd cyfyngder wrth groesi Mynydd Migneint, nid annhebyg i'r hyn gymerodd le yn 1799. Rhewodd dwylaw dau ddyn cryf,