Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar noswaith o rew ac eira, i'r fath raddau, na ddaethant ddim- fel cynt tra buont byw. Llawer a sonid gan hen bobl Ffestiniog y flwyddyn hono am Mr. Charles o'r Bala yn cyfarfod â chyfyngder cyffelyb yn yr un lle, a hyny yn nghof aml un oedd yr adeg hono yn fyw.

Dywed cofiantydd Mr. Charles ddarfod i'r ddamwain a a gymerodd le y flwyddyn y cyfeiriwyd ati uchod, ynghyd a'r oruchwyliaeth lem y bu raid ei gweinyddu ar ei law, achosi pryder mawr iddo ef ei hun a'i deulu a'i gyfeillion ymhob man. A bu llawer o weddio yn yr eglwysi ar ei ran. "Yn nghyfyngder yr amgylchiad, pan oedd ei fywyd mewn cryn enbydrwydd, a nifer o gynulleidfa y Bala wedi ymgynull i gyd-weddio yn yr achos, daliwyd sylw neillduol ar erfyniadau un hen wr syml a duwiol. Wrth erfyn am estyniad oes Mr. Charles, efe a olygodd ac a ddefnyddiodd eiriau yr Arglwydd am estyniad oes Hezeciah (2 Bren. xx. 6); adroddodd amryw weithiau gyda rhyw ymafliad a dadleuaeth syml-wresog, a hyder Cristionogol yn Nuw. Pymtheng mlynedd yn ychwaneg, O, Arglwydd!—yr ydym yn erfyn am bymtheng mlynedd o estyniad at ddyddiau ei oes-ac oni roddi di bymtheng mlynedd o estyniad at ddyddiau ei oes—ac oni roddi di bymtheng mlynedd, O, ein Duw, er mwyn dy eglwys a'th achos,' &c., &c. O fewn ychydig i bymtheng mlynedd. ar ol hyn y terfynodd gyrfa ddaearol Mr. Charles. Yr oedd, nid yn unig y rhai a glywodd yr hen wr yn gweddio, wedi sylwi ar yr adeg, ond crybwyllodd Mr. Charles ei hun aml waith am y peth, a dywedodd yn bersonol wrth ei hen gyfaill, Richard Owen, tua blwyddyn cyn amser ei farwolaeth, fod y tymor yn agoshau at y diwedd. A phan yr oedd ei iechyd yn gwaelu, ac yntau wedi myned i'r Abermaw er ceisio adgyfnerthiad, daliwyd sylw arno yn dywedyd wrth Sarah, ei anwyl briod, 'Sally, y mae y pymtheng mlynedd yn agos i ben.'"

Yn ystod y pymtheng mlynedd hyn y gwelodd yr Arglwydd