yn dda roddi estyniad einioes iddo y cyflawnodd Mr. Charles rai o brif orchestion ei fywyd. Yn y cyfnod hwn y sefydlwyd y Feibl Gymdeithas. Yn y cyfnod hwn hefyd y dygodd allan yr ail gyfrol o'r Drysorfa Ysbrydol, a'r Amddiffyniad i'r Methodistiaid Cymreig, a'r Geiriadur Ysgrythyrol—gwaith na welodd Cymru mo'i ragorach, er holl fanteision addysg dros ysbaid o agos i gan' mlynedd—gwaith y canodd Dafydd Cadwaladr am dano yn ei farwnad i Mr. Charles:—
"Y Dr. Morgan a'r hen Salsbri
Ddaeth a'r trysor goreu i ni;
Ac ar eu hol ni chafodd Cymru
Gyffelyb i'th Eiriadur di."
Ond pwy oedd Richard Owen, y gweddiwr hynod? Wedi gwneuthur ymholiad gydag ysgrifenwyr a chofiadwyr tref y Bala a'r amgylchoedd, yr oll a gafwyd fel rheol ydoedd, eu bod wedi clywed llawer o son am dano, ond nas gwyddent ddim ychwaneg. Ymhen tua thair blynedd, modd bynag, ar ol marw y Parch. Thomas Owen, y Wyddgrug, ysgrifenwyd bywgraffiad byr iddo, a rhoddwyd yr un pryd dipyn o hanes ei dad, yr hen weddiwr hynod. Y Parchedig Roger Edwards, y Wyddgrug, yn ol pob tebygolrwydd, a ysgrifenodd yr hanes, gwr a weithiodd cyn galeted a neb o'r Methodistiaid, a gwr sydd yn haeddianol o barch dau-ddyblyg ymhlith lu o wasanaethwyr eu gwlad. Ar yr hyn a ysgrifenwyd y pryd hwnw y mae y rhan fwyaf o'r pethau a ddywedir yma yn seiliedig.
Mab oedd Richard Owen i Robert Owen, gof, o Wytherin. Gan iddo golli ei dad a'i fam yn ieuanc, dygwyd ef i fyny yn Mhencelli, gerllaw y Bala, gyda pherthynas iddo. Prentisiwyd ef yn gryd, a phan y tyfodd i fyny, aeth i weithio i Lanrwst, wedi hyny i Dreffynon, wedi hyny drachefn i Neston, yn Sir Gaerlleon. Llanc ieuanc gwyllt, yn rhedeg i bob rhysedd ydoedd, ond trwy weinidogaeth y Wesleyaid Seisnig yn Neston, effeithiwyd cyfnewidiad trwyadl yn ei fuchedd.