Chwenychai, modd bynag, wedi hyn, ddychwelyd yn ol i Gymru i gael mwynhau rhagorfreintiau yr efengyl yn ei iaith. ei hun, a phenderfynodd ymsefydlu yn y Bala. Nid oedd wedi gwybod am ddim Methodistiaid ond y Methodistiaid Wesleyaidd, ac erbyn dyfod i'r Bala, teimlai fod yr athrawiaeth a bregethid gan y Methodistiaid yno yn wahanol iawn i'r hyn a glywsai ef gan y Methodistiaid Wesleyaidd yn Neston—un yn Galfinaidd, y llall yn Arminaidd. Aeth at y Parch. Thomas Foulkes, y pryd hwnw o'r Bala, yr hwn y clywsai oedd wedi ei argyhoeddi o dan weinidogaeth John Wesley, a dywedai wrtho derfysg ei feddwl, gan ychwanegu, "Nid oes gan y bobl hyn ddim ond gras, gras! Nid ydynt ond anfynych iawn yn son am weithredoedd." Cynghorodd Mr. Foulkes ef i lynu wrth y Methodistiaid Cymreig, ac meddai, "Maent yn bobl dda, er nad ydynt yr un farn a Mr. Wesley; ac os nad ydynt yn son llawer am weithredoedd da, yr wyf fi yn dyst eu bod yn eu gwneyd."
Parhai o hyd yn gythryblus ei feddwl wrth wrando pregethau ar yr athrawiaeth Galfinaidd, ac yn enwedig oherwydd yr Etholedigaeth, a hiraethai am gael clywed yr athrawiaeth a glywsai yn nyddiau ei argyhoeddiad yn Sir Gaerlleon. Penderfynodd ynddo ei hun y byddai raid iddo adael y Bala o'r herwydd. Yn ddamweiniol, neu yn ragluniaethol, perswadiwyd ef gan un o hen grefyddwyr y dref i fyned yn ei gwmni ef i Ddyffryn Ardudwy, i wrando y Parchedig Daniel Rowland, Llangeitho, yr hwn oedd ar daith trwy y Gogledd. Testyn pregeth Mr. Rowland yn y Dyffryn oedd, "A'r Arglwydd a gauodd arno ef," sef Noah yn yr Arch. Dywedai y pregethwr yn ei bregeth fod drws yr Arch yn agored i'r holl greaduriaid, a bod Noah yn derbyn pob creadur a ddeuai, ond mai Duw oedd yn rhoddi greddf yn y creaduriaid i ddyfod; felly mai dyledswydd gweinidogion yr efengyl ydyw galw ar bawb i dderbyn yr iachawdwriaeth, ond Duw, yn ol ei arfaeth a'i ras,