sydd yn rhoddi tuedd yn y meddwl i dderbyn yr iachawdwriaeth. Duw sydd yn tueddu meddwl pechaduriaid i redeg i'r noddfa, ac Efe sydd yn cau y drws wedi yr elont iddi. Bu y bregeth hon yn foddion i'w gymodi am byth â'r athrawiaeth Galfinaidd, a chymaint ydoedd ei lawenydd wedi iddo gael y goleuni hwn, fel y dywedai ei fod yn foddlawn iawn i gropian yn ol bob cam i'r Bala pe buasai raid.
Nid ydyw y daith hon o eiddo y Parch. Daniel Rowland trwy y Dyffryn wedi ei chroniclo ynglyn â hanes yr achos yno. Sicr ydyw mai nid un o'i deithiau cyntaf i'r Gogledd ydoedd, ond rhaid fod hyn wedi cymeryd lle gryn amser ar ol yr ymraniad rhwng Rowland a Harris.
Ymglymodd Richard Owen wrth y Methodistiaid o'r pryd hwn allan, ac ymhen amser, dewiswyd ef yn un o flaenoriaid eglwys y Bala. Yr oedd yn weddiwr mawr, nid yn amser saldra Mr. Charles yn unig, ond yn wastad ar hyd ei yrfa grefyddol. Dywediad Mr. Charles ydoedd y medrai Richard Owen fyned i'r nefoedd o flaen pawb o'r frawdoliaeth yn y Bala. Rhoddir rhai engreifftiau er dangos hyny. Un tro pan yn gweddio yn gyhoeddus, cafodd afael yn y geiriau, "Ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys," &c. Adroddai drosodd a throsodd drachefn y geiriau, "Y graig hon," a "phyrth uffern," a chan daflu ymaith ei het, yr hon, yn gyffredin, a fyddai yn ei law, neu o dan ei gesail pan yn gweddio, rhoddai floedd effeithiol, "Challenge i ti, Satan: Pyrth uffern nis gorchfygant hi'—ond fe orchfyga hi: Bendigedig!" Soniai hen bobl y Bala am weddi arall hynod iawn o'i eiddo. Galwodd Mr. Charles arno i ddiweddu y seiat unwaith. Yn y weddi hon, cafodd afael yn y geiriau yn y Salm, "O, byrth, dyrchefwch eich penau, ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol." Adroddai y geiriau drosodd a throsodd, a gwresogai ei ysbryd fwy-fwy wrth adrodd, "O byrth, dyrchefwch eich penau," ac ymaith a'r het oedd y pryd hwn o dan