Tudalen:Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei gesail, yr hon ar ei hedfa a darawodd fonet Mrs. Charles, a gwaeddai y gweddiwr (ar y pyrth fry, mae'n debyg), "Make room!" Torodd allan yn orfoledd mawr ar y weddi ryfedd hon ar ddiwedd y seiat.

Pan yn gweddio ar ddyledswydd yn y teulu, byddai ganddo ystôl dri-throed o dan ei ddwylaw, gyrai yr ystôl yn ystod ei weddi, os cyfodai yr hwyl, oddiamgylch y tŷ. Fel y twymnai ef, clywid yr ystol yn cychwyn, o amgylch ogylch yr ystafell, nes peri un feddwl mai yr ystol a agorai y ffordd i'w ddymuniadau gael eu harllwys allan; a dywedir y byddai yn gwneuthur amryw o'r cylchdroadau o amgylch yr ystafell cyn y cyrhaeddai yr Amen. Aeth unwaith i ymofyn mawn i'r pen- tŷ, lle o bwrpas i gadw tanwydd, a chan yr arferai yn fynych weddio yn y dirgel, gwelodd yno gyfle i fyned ar ei liniau, a dyna lle y bu am gryn ysbaid o amser mewn gweddi yn gweddio, ac ymhen hir a hwyr aeth yn ol i'r tŷ wedi anghofio yn llwyr y mawn. Gofynodd y wraig, wedi iddo fyned i'r tŷ, "Wel, Richard, lle mae y mawn?" "Wel, ïe, yn siwr, Ann bach," atebai yntau, "yr oeddwn wedi anghofio beth oedd fy neges yn myned i'r pen-tŷ." Nid rhyfedd ydoedd i weddi y cyfryw weddiwr lwyddo i beri estyniad o bymtheng mlynedd yn oes Mr. Charles.

Mab ydoedd Thomas Owen, y Wyddgrug, fel y crybwyllwyd, i'r diweddar Richard Owen uchod. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1781. Cafodd ddygiad i fyny yn yr awyrgylch fwyaf crefyddol, o dan gronglwyd lle yr oedd cymundeb dyddiol a'r nefoedd, yn swn cynghorion a gweddïau taerion ei dad duwiol, yn nhref y Bala, yr hon oedd Jerusalem Methodistiaid y Gogledd; lle yr oedd y nifer fwyaf o bregethwyr a blaenoriaid, a hen bobl dduwiol; a'r Ysgol Sul yn cychwyn ei gyrfa ac yn lliosogi o dan arweiniad ei sylfaenydd enwog, a chewri pregethwyr Cymru yn dyfod trwy y dref ar eu teithiau, i bregethu. Yr oedd dynion ieuainc y Bala yn cael eu dwyn