i fyny wrth draed enwogion y cyfnod hwn, fel mewn cyfnodau dilynol. Dechreuodd Thomas Owen ei oes yn dra chrefyddol, ond wedi tyfu yn llanc aeth dros dymor byr ar gyfeiliorn, gan ddilyn ieuenctyd gwyllt yr oes; ac wedi rhoddi tro trwy y commins, fel y dywedai yr hen bobl, daeth yn ol i'r seiat ar amser o ddiwygiad grymus. Wedi hyny, dechreuodd lafurio gyda sel a ffyddlondeb o blaid crefydd, ac yr oedd ynddo dalent na ddylesid mo'i chuddio. Pan oedd tua 21 oed, galwodd yr hybarch bregethwr, John Evans, un boreu Sabboth arno ef a John Peters, wedi hyny o Drawsfynydd, a dywedodd wrthynt, "Y mae yn rhaid i chwi fyn'd yn fy lle i heddyw, oherwydd fy mod yn annalluog gan afiechyd i fyned i'm cyhoeddiad. Ewch chwi, a darllenwch benod, ac ewch i weddi yn fyr; ac os cewch ar eich meddwl, dywedwch ychydig oddiwrth y benod." Aeth y ddau ddyn ieuanc, a gwnaethant yn ol y cyfarwyddyd, ac er fod ar feddwl y naill a'r llall i bregethu, ni fynegasant ddim o hyny i'w gilydd, ac ni ddarfu iddynt gynyg pregethu y diwrnod hwnw. Cydnabyddir fod y patriarch John Evans yn un o'r rhai craffaf a fu yn perthyn i'r Cyfundeb erioed, a phrofa yr amgylchiad hwn. hyny.
Traddododd Thomas Owen ei bregeth gyntaf yn nhŷ hen wraig o'r enw Siân Llwyd, yn Llanfor, yn y flwyddyn 1802. Trwy berswad Mr. Charles y llwyddwyd i'w gael i bregethu y tro cyntaf yn nhref y Bala, oherwydd ei fod yn llwfr ac yn ofnus i bregethu yn nghlywedigaeth cynifer a dybid eu bod yn golofnau, a thrwy dipyn o gyfrwysdra diniwed y dygwyd hyn oddiamgylch.
Un o'r cynghorion a roddodd Mr. Charles iddo yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu ydoedd, "Arfera fyned a dyfod gyda'th gyhoeddiadau yn ddiymdroi; na ddos yn afreidiol i dai y cyfeillion ar y ffordd: a bydd mor ddidrafferth i bawb ag y byddo modd." A dywedir y byddai yn ymddwyn yn ol y