Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhy anodd yw credu nad yw ef o hyd yn gwanu'r perthi ac yn llamu'r cloddiau o gwmpas Tŷ Newydd-hen annedd fy mebyd wrth odre Garn Gowil.

Yr oedd Jack a Garn Gowil yn un rywfodd, a'i fynd hoenus drwy'r eithin a'r grug a'r rhedyn fel cwthwm o wynt chwerthinog, a rhialtwch ei gyfarth fel eco rhywbeth a gollwyd pan gysgodd y graig.

Yr ydych wedi casglu, erbyn hyn, mi wrantaf, mai ci oedd Jack. Ond fe'i cyfrifid yn gi, yn hytrach na brawd, yn unig oherwydd ei debygrwydd i gi mewn pethau yr edrych y llygad arnynt. Mi welais ystyried creadur arall yn ddyn am yr un rheswm arwynebol.

Dyledus i goffadwriaeth fy hen gydymaith annwyl yw tystio na chlywais i nemor neb yn ei alw yn gi wedi iddo dyfu i fyny a gwneud ei gallineb a'i lewder yn hysbys drwy'r ardal. Fel "Jack" a "Jack Tŷ Newydd" y sonid amdano ymhell ac agos, fel petai'r gymdogaeth wedi gorfod ei dderbyn i mewn i gylch y frawdoliaeth ddynol. Nid wyf yn tybio iddo ef ei hun