Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

werthfawrogi hynny; ond yr wyf yn hollol sicr iddo ryfeddu lawer gwaith at hurt- rwydd creaduriaid a ddiolchai'n barhaus na pherthynent i'r anifeiliaid direswm.

Ofer gofyn pa rywogaeth o gi ydoedd Jack. Cyfarfu ynddo genedlaethau o gŵn gwahanol. Nid oedd na spaniel na therier na chorgi na chi adar na chi gwartheg na chi defaid nac unrhyw gi arall y gellid olrhain ei achau a'i ddeffinio. Mae'n wir iddynt oll gyfarfod ynddo ef; ond her i neb ddynodi lle y dechreuai un ac y gorffennai'r llall gan mor gywrain y cymysgwyd y rhywogaethau amrywiol yn y telpyn byw, caruaidd a adwaenwn mor dda.

Yn hynny o beth, yr oedd fel teisen orau fy mam-yn flawd, yn wyau, yn hufen, yn fenyn, yn siwgr ac elfennau eraill, a'r cwbl yn ymdoddi i'w gilydd yn un saig o hyfrydwch anneffiniol. Ond gan nad sawl math o gi a gyfrannodd tuag at wneuthuriad Jack, sicr ydwyf mai rhagoriaeth pob un ohonynt a gyfarfu yn ei gorpws ef.

Wrth feddwl amdano heddiw, yr wyf yn argyhoeddedig bod brithgi da i'w ddewis o