dan y bwrdd dyrnu, a minnau'n rhy fawr i fynd i mewn ar ei hôl. Gad i'r ffured yrru'r satanes allan. Mi ofalaf fi am y gweddill!" Awgrymodd gynllun na ddychmygais i amdano, er fy mod mor chwannog ag yntau i ddal y satanes, yn enwedig o gofio'r hwyaid bach a'r cywion a leddid mor aml gan ei gwehelyth front.
Nodaf y digwyddiad hwnnw fel enghraifft o'i gallineb a'i ddeall; a da gennyf ychwanegu i'r cynllun lwyddo. Gyrrwyd y llygoden o'i lloches; ac yng ngenau Jack y darfu ei heinioes.
Awgrymais mai ffyddlondeb na chyfrifai'r gost oedd ei ffyddlondeb ef. Cyfyd lwmp o hiraeth i'm gwddf wrth alw i gof y diwrnod hwnnw yr euthum allan mewn cwch o draeth Wdig gyda'm cyfaill John James— llanc a ddaeth yn gapten llong ar ôl hynny. Wedi inni rwyfo allan tua milltir, dyna John yn gweiddi'n arswydus: "Jiw! Jiw! Dyna forlo!" Yn nhrywydd y cwch, ryw gan- llath i ffwrdd, gwelwn ben du ar frig gwaneg las, a'r creadur yn gwneud am danom! Dyma afael yn dynnach yn y rhwyfau a