thynnu am ein bywyd i gyfeiriad y cei dan Graig y Cw yn hytrach na throi'n ôl am draeth Wdig. Ar hyn, dyma gyfarth bach gweddigar yn codi o'r tonnau. Creadur dieithr oedd morlo i mi; ond yr oeddwn yn ddigon cyfarwydd â'r cyfarth hwnnw i wybod mai fy hen ffrind Jack oedd yn gwneud am danom, nid gelyn. Yr oedd ar foddi, druan, pan godwyd ef i'r bad, a mwy o halen yn ei fol nag a lyncodd mewn blwyddyn gyda'i gawl—cawl enwog Sir Benfro. Gorweddodd yn sopyn lluddedig wrth fy nhraed, ei weflau'n glafoerio, a'i ochrau'n megino'n echrydus; ond nid cyn iddo lyfu fy llaw a churo diolch bach gorfoleddus â'i gynffon ar waelod y cwch.
Wedi iddo ddadebru, mi a'i cyferchais yn y dull sarrug hwnnw sydd mor debyg i wylo: "Y ffŵl dwl! Serfio di'n reit petait ti wedi boddi! Yr oedd yn dda iti gyfarth, cofia! Nid lle i gi yw canol bae Wdig, y ffŵl! Fe gredodd John a mi taw morlo oit ti. Glywaist ti? Morlo!"
Cododd ar ei eistedd gan syllu i'm llygaid a gofyn beth oedd morlo. Ate bais: "Nid