Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac er iddynt hwythau—chwarae teg iddynt! —addef bod cydwybod yn aros yn rhagoriaeth iddo fel ci pregethwr, nid aethant mor bell â chyfrif hynny'n ddiogelwch rhag temtasiwn gyffelyb maes o law! Ystorm a ysgydwodd gedyrn yw'r gwrthryfel rhwng cydwybod a thrachwant.

Costiodd ei hoffter o bregethu—pregethu fy nhad, wrth gwrs—yn ddrud iawn iddo un bore Sul. Yr oeddwn, yn ôl fy arfer, wedi ei gloi yn y gegin cyn cychwyn am y capel. Ond, er fy syndod, a ninnau'n canu'r emyn o flaen y bregeth, dyma Jack yn cripian i mewn i'm sedd, a golwg euog ofnadwy arno. Sylwais, yn ychwanegol, fod ei ben yn friw a gwaedlyd.

Eisteddodd o'm blaen a syllu i fyw fy llygaid. Heb wneud sŵn o gwbl, ond siarad yn angerddol â'i olygon, a llyfu fy llaw, dechreuodd ymddiddan a begian fy mhardwn gyda'r peth taeraf a glywsoch chwi erioed. Jack, bid sicr, oedd y pechadur mwyaf edifeiriol yn y cwrdd y bore hwnnw; ac fel hyn y llefarai, yn ei ffordd ei hun: