"Defi bach! Y mae'n ofidus iawn gennyf dy drwblu fel hyn. Y doluriau yma ar fy mhen? O, twt, twt, paid â sôn am danynt. Digon o wynfyd am y rheini yw cael gafael ynot a chlywed llais meistr yn y pulpud. Dim ond un peth sy'n fy ngofidio'n awr— y twll melltigedig yna yn ffenestr y gegin, a gwydr y chwarel yn deilchion ar hyd y lle. Ond dyna hen Bitar y Saer, fe ddaw ef, fel arfer, i drwsio pethau. Gwell imi dewi hefyd neu mi gollaf y bregeth. Y mae meistr wedi codi ei destun yn barod. Ond gad imi lyo dy law, Defi bach annwyl, unwaith eto—dim ond unwaith! Mi orweddaf i lawr wedyn yn dawel bach dan y sedd yma. O! 'r nefoedd fawr! Dyna dda yw cael bod yma—pen tost neu beidio!"
Wedi hynny, yr ysgubor oedd ei garchardy bob bore Sul, a chadwyn gref yn atalfa ychwanegol ar ei bererindodau. Ond nid hir y bu'r cynllun hwnnw cyn troi'n fethiant. Trwy ryw gyfrin ddeall nas rhodded hyd yn oed i ddewin, fe ddechreuodd Jack ddiflannu nos Sadwrn. Nis gwelais yn edrych ar yr almanac; ond fe wyddai,