Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffrind â'u salwch i fynnu ymwared oddi wrtho. Ant yn dostach ddengwaith gyda'r awgrym lleiaf am adferiad.

Dyna'r rheswm pennaf, fe ddichon, paham na fentrodd na meddyg na fferyllydd gyhoeddi bod modd erlid y dolur hwn o'r wlad. Rhan o ddoethineb pob doctor gwerth ei halen yw peidio ag ymyrryd â thruan a fyddo'n sâl o'i wirfodd.

'Waeth i neb ohonom na cheisio cydymdeimlo â chyfaill y bo'r Falen arno. Tuedd tosturi yw ennyn ei anfodd, os nad ei ddirmyg. Gwaeth fyth yw gwenu yn ei wyddfod neu daro pwt o gân yn y cywair llon. Yn wir, fe â'n gynddeiriog bron lle bo ysgafnder neu sôn am bethau gwell i ddyfod. O'r braidd, er hynny, y mae angen pryderu yn ei gylch. Y mae wrth ei fodd yn ei boeni ei hun.

Yn afresymol fel yna, i'n golwg ni—y bobl gytbwys ac ymarferol—yr ymddûg pawb dan ddylanwad Y Falen. Gwnânt inni feddwl am hurtyn a dynno i lawr len y ffenestr, ac achwyn wedyn ei bod hi'n dywyll; ond bod hwnnw yn medru dweud