Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

beth sydd allan o'i le, a hwythau'n methu. Cânt flas rhyfeddol ar fod yn ddiflas. gwynfyd yw bod yn anniddig. Gwasgant ryw bigyn anwel i'r fynwes, a mwynhau'r anghysur tan siglo'u pennau'n ôl a blaen, ac anghredu'r stori ddwl am yr eos yn canu a draenen yn ei bron; a gwae'r neb a ddêl atynt i gynnig meddyginiaeth neu ddiddanwch!

Shakespeare, os da y cofiaf, a haerodd fod llwfriaid yn marw lawer gwaith cyn eu tranc. Gan nad beth am hynny, fe dry deiliaid Y Falen i nos y bedd yn fynych iawn cyn eu claddu. Eithr nid llwfrdra mo'r Falen chwaith. Prin y gellir galw dyn yn llwfr ac yntau'n mynnu cilio i'r fynwent cyn ei amser, a mynd yn grac chwilboeth pan edliwier iddo ei fod mor iach â ninnau.

Dyna'r hen Fali Siars y cofiaf mor dda amdani yn pendwmpian uwch ei thân mawn, a'i llygaid breuddwydiol yn gweld rhyfeddodau ym mhyllau cochion y marwor —rhyfeddodau dieithr ac annaearol, a barnu wrth ei hocheneidiau. Perygl bywyd oedd cydymddwyn â hi yr adeg honno. Ond