Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dyma sy'n rhyfedd: Trannoeth hi oedd y fenyw hapusaf yn yr holl wlad, a'i hemyn gorfoleddus—a'i slyrs cwmpasog fel hen lwybrau'r mynydd—yn wledd i glust a chalon.

Rhai eithafol iawn yw'r bobl sy'n chwannog i'r Falen; ar gopa'r bryn heddiw; i lawr yfory ym mhanylau dyfnaf glyn y cysgod, a siarad yn ffigurol. Cydbwysedd ni feddant; a chymedroldeb tymer ni rodded iddynt. Dieithr y gwastadedd iddynt hwy. O chwerthin i ocheneidio yr ânt, ac o ocheneidio i chwerthin, heb aros ennyd awr rhwng y ddeupen i dynnu anadl a sobri. Yn wir, dim ond wrth groesi o un ochr i'r llall y cyffyrddant o gwbl â chanol y ffordd. Yn yr eithafion y trigant— L'allégro heddiw; Il Penseroso yfory. Ymysg trigolion y ddaear, y Celt, ond odid, yw'r mwyaf esgud i groesawu'r Falen.

O leiaf, dyna'r enw a gaiff o'r tu arall i Glawdd Offa. Ef yw'r ymfudwr mwyaf hiraethus dan haul; ac nid bob amser y gŵyr hiraeth am beth sydd arno. Y mae'n greadur mor amhenodol. "Llwybrai heb