Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wybod lle bwriai babell" meddai Machreth amdano wrth ddisgrifio'i bererindod bore. Y mae'n greadur mor angerddol hefyd- angerddol yn ei orfoledd, angerddol yn ei ddwyster.

Wrth reswm, anwadalwch y geilw y Sais deimladrwydd cymhleth felly. Sylwaf innau fod afonydd cynhyrfus Cymru yn mynd yn ddof a difywyd odiaeth ar ôl cyrraedd gwastadeddau Lloegr. Dyna'r ffatrwydd tragwyddol a gymhellir arnom ni'r Cymry, mae'n debyg, yn enw pwyll cynnil ac ymatal artistig.

Mab y mynydd yw'r Cymro wrth natur. Ym myd yr ysbryd hefyd, dyna ydyw. Cyferfydd y talfeydd a'r iselderau yn ei enaid ef ei hun. Yn wir, ceir darlun lled gyflawn ohono gan y Parch. J. J. Williams mewn ffrâm bychan iawn:

Fel ei wlad, anwastad yw.

Ffordd Pope-yn ôl ei eiriau ef ei hun o gael llonydd gan Y Falen oedd troi i gyfansoddi darn o rigwm. Mae'n amlwg nad oedd ef ddim yn cael y dwymyn honno'n