Meddylier, er enghraifft, am y rhagbaratoad a elwir yn "llenwi'r bibell." Nid gorchwyl mono, ond defod; eithr defod sydd yn hawlio manyldeb a gofal. Yn wir, llaw offeiriadol sy'n gweddu i'r ddefod honno—llaw a ŵyr sut i drin a threfnu'r ffrwyth a'i gyflwyno'n boethoffrwm addas i dduwies mor hoff.
Rhaid cofio hefyd fod i'r dduwies anadl a ofyn am rwyddineb, ac y geill gorlwytho, neu wasgu trwsgl, effeithio'n niweidiol ar yr anadl honno. Mi glywais hen ysmygwr yn tystio nad oedd fawr o bleser iddo mewn "baco cardod," sef myglys a roddid iddo'n rhad ac am ddim. Tuedd dyn, ebr ef, oedd stwffio'r bibell â hwnnw nes atal ei gwynt a'i thagu. Wrth reswm, anghofio ysbryd parch a gweddusder yw peth felly; barusrwydd yn cael yr afael drechaf. Canlyniad hynny yw tramgwyddo'r dduwies a cholli'r fendith. Cymhares yr awr dawel yw'r Bibell—awr myfyr a breuddwyd, awr geni telyneg ac englyn. Hi'n unig sydd yn cael dilyn bardd i bellter cyfaredd. Nawf ei dolennau