Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mwg yr adeg honno yn fiwsig na ellir ei ddal.

Mae'n wir y gwelir gwefusau ambell weithiwr yn glynu wrthi pan fyddo'i law ar ebill, neu fwyell, neu ordd. Eithr lle bo eisiau poeri ar ddwylo a defnyddio holl rym yr ysgyfaint, anghyflawn yr offrwm i'r eilun hoff. Gormod camp yw gwasanaethu dau arglwydd yr un pryd.

Y smôc gyntaf ar ôl brecwast yw fy smôc felysafi. Rhyw ymchwil am honno yw pob mygyn a'i dilyn, a phob un ohonynt yn syrthio'n fyr o'i hyfrydwch hi. Mi glywais nodi rheswm da am hynny: Nid wrth erlid pleser y mae ei ddal.

Y dydd o'r blaen, mi welais lun tarawiadol: nifer o Indiaid Cochion, ynghyd â milwyr Americanaidd, yn swatio ar lawr fel cylch o deilwriaid. Mewn cynghrair yr oeddynt, a'r pennaeth coch yn estyn pibell ysmygu hir i arweinydd y fintai Americanaidd. Teitl y darlun oedd, "Pibell Tangnefedd." Eithr pibell tangnefedd yw pob pibell ysmygu i mi. Mi welais ddyn yn ymladd a het silc ar ei ben. Ond pwy all gwffio a