Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

brofiad yr awr. A lle bo'i gorff dan glo, y mae'r muriau'n ymwasgu amdano a'i lethu. Ni fedd na chwmni na chyfeillach ond yn ôl agosrwydd cymheiriaid y medr ef eu gweld â'i lygaid, eu clywed â'i glustiau, a'u cyffwrdd â blaenion ei fysedd. Gŵr ydyw heb ffenestr i'w feddwl.

Mor wahanol y gŵr sydd mewn cymundeb â sylweddau cyfrin, hyd yn oed yng ngwacter byd! Y gwir yw nad gan garcharor yn ei gell y cyfansoddwyd "Taith y Pererin," ond gan freuddwydiwr rhydd na allai na mur na gefyn ei ddal yn gaeth.

Nid unigrwydd sydd i ŵr a fedd ddarfel- ydd, er ei yrru i'r anialwch, neu ei daflu i ddaeargell, ond cwmnïaeth fendigedig. Yn wir, y "gell a'i didol" yw cysegr santeidd- iolaf pob perchen awen. A pha gymunwr a ofyn am ffenestr iddi pan fyddo storm o oleuni yn torri ar olygon ei enaid?

Wrth syllu allan heddiw drwy fy ffenestr glir, diolchaf am gyfrwng cyfathrach uniongyrchol rhyngof â phrydferthwch. Heb hynny, ofnaf mai pell iawn a fyddwn o fedru synied amdano a'i werthfawrogi. Tybiaf