Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mai dyna'r gwir plaen am y mwyafrif o'm cyd—fforddolion hefyd. Lle bo gardd yn weladwy o flaen eu llygaid, medrant edmygu ei choelcerth liwiau a dwyn mesur helaeth o'i diddanwch. Eithr dieithr iddynt y gynneddf honno a fedr beri "i'r anghyfaneddle lawenychu" ac "i'r diffeithwch orfoleddu a blodeuo fel rhosyn." Mwy dieithr fyth iddynt ysbryd y carcharor na fedr ond Angau'i hun ddwyn oddi arno etifeddiaeth plant y goleuni.

Syndod meddwl bod dirgelwch mwy eto'n aros, a'i ddadrys yn ormod camp hyd yn oed i'r dall a gafodd gipolwg ar wyrthiau'r haul. Sut yr adnabu Hellen Keller dlysni perth a thegwch gwedd, a hithau heb syllu erioed drwy ffenestr fel hon?

Lle'r edrychir allan ar ehangder gwlad. brydferth,—ei fforestydd, ei dolydd a'i mynyddoedd,—diddorol yw peri i'r llygaid fanylu ar ffurf y ffenestr ei hun a gwylio'i heffaith ar banorama'r byd. Sylwer ar ei rhwyllwaith, fel y pair hwn i'r olygfa fawr ymrannu'n gyfres nodedig o fân ddarluniau. Ceir pictiwr bach perffaith ym mhob