Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chelloedd bychain, nid ar ei chestyll aruthr. Yr hedyn cau yw ei thrysordy hi, nid y maes agored. Pe cipid cyfrinach llychyn, buan y darfyddai dirgelwch y mynydd mawr.

Clywsom yn ddiweddar am y nerthoedd anghyffred a weithia mewn temigyn. Pes ffrwynid, hwy a yrrent long dros y môr, neu gerbyd dros y tir, yn ôl arch y gyriedydd. Cafwyd yr un gwirionedd ar wefus y Dysg- awdwr o Nasareth. Tystiai Ef y gellid symud mynydd gan ffydd gymaint â gronyn o had mwstard. Synnai'r torfeydd, a syllu arno'n anghrediniol. Gan mai ar y mynydd. y gorffwysai eu golygon, methent a sylwedd- oli nad symud hwnnw oedd y gamp, ond meddu'r gronyn ffydd. Yr un yw anneall llawer o'i ddilynwyr Ef hyd y dydd heddiw.

Mae hen fythynnod Cymru'n prysur ddi- flannu. Rhyfeddais lawer gwaith fod eu ffenestri mor fychain. A oedd ofn y goleuni ar ein tadau? Eglurwyd wrthyf mai yn ôl maint y ffenestri y trethid eu tai. Diolch bod iawn am gyfyngder felly; gellir gweld gwlad fawr trwy ffenestr fechan.