Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwir yw hyn am ddynion hefyd. Ceir cyfandir o feddwl ym mrawddeg ambell un. Digon i'r llall yw agor ei geg unwaith i'n argyhoeddi nad doethineb yw ei rym.

Dwy ffenestr na fedraf eu hedmygu yw'r Ffenestr Siop a'r Ffenestr Ystaen-y naill oherwydd ei rhagrith, a'r llall oherwydd ei harwynebedd. Mae'n wir yr ystyrir "gwisgo'r ffenestr " yn gelfyddyd heddiw. Tecach fyddai ei alw yn gyfrwystra. Anaml y gellir pwrcasu wrth y cownter yr hyn a amlygir yn y ffenestr. Rhywbeth salach a gynigir. Hen ystryw ffals yr edwicwr yw gosod y ffrwythau breision ar wyneb y pentwr, a rhoi i'r cwsmer y siom o ddar- ganfod pethau pwdr yn y cwdyn ar ôl iddo gyrraedd y tŷ, a'r gwerthwr, erbyn hynny, yn ddigon pell!

Perthyn yr un cyfrwystra i'r ymhonnwr ym myd meddwl a buchedd-ffenestr ardderchog oddi allan, ond stwff gwael oddi mewn. "Beddau wedi eu gwyngalchu " y galwai'r Athro Mawr ddynion felly; ac ni bu cymhariaeth effeithiolach erioed. Anffawd cymdeithas yw ei hanallu parhaus i