guddio'i feiau rhagddi oherwydd gwybod ei bod yn fwy manwl na'r bendefigaeth, yn fwy ansefydlog na'r môr, yn fwy gorth- rymus na theyrn ac yn fwy ofnadwy yn ei digofaint (fel y profodd y Chwyldro Ffrengig) na Jesebel waedlyd; Y Cyhoedd, yr anghen- fil annelwig hwnnw nad yw yn yr unlle am ei fod ym mhobman; yr ymyrrwr mawr holl-bresennol a gâr dynnu ysgerbwd o gwpwrdd a hau drewdod i'r pedwar gwynt; y barnwr mympwyol a ethol un i anrhydedd ac arall i golledigaeth yn ôl ei chwim a'i ragfarn; y gwyntyllwr tafodrydd nad yw na brawd na chwaer, na thad na mam, eithr rhyw dramwywr cymysgryw a oglais bob clust a hoffo fiwsig clec; y mathrwr annynol a gladd ddaioni gŵr gyda'i esgyrn, chwedl Shakespeare, a rhoddi hoedl i bob anghaffael a ddigwyddodd iddo.
Am hwnnw y meddyliai William, druan; ac ofni hwnnw a achosodd i bob dyfeisiwr a phob dau y bo cyfrinach ddrud rhyngddynt. gredu bod clustiau i'r parwydydd a llygaid i brennau'r maes.