Cyfyd hyn gwestiwn diddorol o safbwynt. meddyleg. Paham yr ymdeimlad hwn o fraw lle na bo na rhywun pendant i'w ofni na rhywbeth sylweddol i arswydo rhagddo? Wel, y mae hi yn natur pethau, rywsut, fod ar bobl yn gyffredin fwy o ofn rhyw bresenoldeb dirgel—rhyw fynas amhenodol—na gelyn y gellir ei weld a rhoddi bys arno, fel y mae teithiwr yn ofni dieithrwch cae anghynefin yn y nos yn fwy na thywyllwch hen gwm dryslyd y mae pob modfedd ohono yn hysbys iddo. Ond odid, yr ymdeimlad. o ddiymadferthedd, neu unigrwydd digymorth, sydd wrth wraidd yr ofn hwnnw; ac o'r ofn hwnnw, yn ddiamau, y tardd cred mewn ysbrydion a drychiolaethau a rhyw dynghedfen ddisyfyd a ddilyn gamre gŵr fel ei gysgod ei hun.
Y Nhw! Pwy ydynt? Pa le y maent ? Ai yn agos ai ymhell? Ofer holi. Os rhithiau ydynt, pwy—yn enw rheswm— sy'n cychwyn y murmuron diwarafun a ddaw i'n clustiau beunydd, beunos, megis of bedwar ban y byd?