Dichon mai creaduriaid ydynt a fedr eu difodi eu hunain y funud y rhoddant ollyng— dod i gyfrinach, yn enwedig cyfrinach a fo'n sen ac athrod ar ryw frawd neu chwaer anffodus. Efallai eu bod o'r un anian â'r pysgodyn cyfrwys hwnnw sy'n mynd o'r golwg, o'i erlid, yng nghwmwl brwnt ei drywydd ei hun. Y mae'n weddol hysbys y medrant fod mewn lle a pheidio â bod yno ar yr un pryd, fel y Scarlet Pimpernel yn stori'r Chwyldro Ffrengig. Fe all mai taflu eu lleisiau y maent a'n camarwain—" gyrru'r ffŵl ymhellach”—fel y gwnâi Valentine Vox.
Da y cofiaf y consuriwr crwydrad hwnnw. a ddaeth i'n diddori ni, blant yr ysgol, 'slawer dydd. Dechreuodd sôn am elffod ac ellyllon; wedyn peri inni eu clywed yn gwichial a chrechwen yn nhrawstiau'r to. Cyn hir, dyna'r "diawl bach du," chwedl yntau, yn galw enwau cas arnom o dwll y simnai. Aeth dau grwt mawr allan, rhwng chwilfrydedd a hanner ofn, a syllu i fyny i gorn y mwg. Mentrodd un ohonynt—a'i enw Tomos, gyda llaw—gyhoeddi'n watwarus nad oedd yno neb. Ond ar y gair,