graig ateb na âd i deyrn corniog frefu'n ddi- ymyrryd ar ei diriogaeth ei hun. Bob tro y cyfyd sŵn o'i wddf, y mae'n fater o raid ar y tarw anwel, busneslyd yna ei ateb yn ôl a'i watwar. A dyna'r floneg yn y tân, ag arfer iaith y mae'n dda i deirw na ddeallant moni; yntau'n carthu'r tyweirch a beichio'n uwch, uwch, ei ffroenau'n megino mwg, a'i lygaid yn saethu fflamau, a'r tarw pell yn ei ddynwared i'r dim nes gwneuthur chwalu rhywbeth nad yw'n fuwch yn fater o raid iddo.
Peth ynfyd mewn tarw yw ei herio ei hun fel yna. Ond doethineb mewn dyn yw rhoddi sialens iddo'i hunan. Wrth reswm, nid dawnsio o gwmpas, chwyrnellu ei ddyrnau, fel esgyll melin wynt, a gweiddi: Dere mlân, te! Bwra fi! Bwra fi!" a neb byw bedyddiol gerllaw. Na, nid hynny; ond mynd i mewn i'w ystafell ddirgel, cau'r drws a dechrau ei holi ei hunan o ddifrif. Dyna'r unig ffordd y medr dyn roddi praw effeithiol ar ei anrhyd- edd, heb sôn am ddarganfod maint ei gynnydd mewn gwybodaeth a gras.