Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CREDIR yn lled gyffredinol, mi dybiaf, nad llawer o bechod, os dim, yw dweud celwyddau y gwêl pawb mai celwyddau ydynt. "Celwyddau golau" y gelwir anwireddau felly. Yn wir, mi gofiaf yn dda am lwffyn gwledig a elwid yn "Shanco Gelwydd Golau," nid oherwydd ei fod yn greadur celwyddog, ond am fod digon o ffenestri i'w gelwyddau i'ch galluogi i weld trwyddynt.

Y mae yna fath arall ar gelwydd diniwed, sef y math a gymerth ffurf y Stori Dal—tall story y Sais. Ni welaf i achos dros ymwrthod â'r term yn Gymraeg, oblegid o'r Saesneg y daeth y Stori Fer—peth cymharol ddiweddar yn llenyddiaeth y Cymro. Y gwir yw mai i rywogaeth y stori dal y perthyn ein chwedlau a'n rhamantau a'n Mabinogion ni'r Cymry, er bod i rai ohonynt elfennau nad ffrwyth dychymyg monynt yn gyfangwbl.

Yn fy marn i, meistr y stori dal yng Nghymru, yn y blynyddoedd diwethaf hyn, oedd yr hen Shemi Wâd. Mae'n wir na