ŵyr nemor neb ddim amdano o'r tu allan i fro fy mebyd; a thlawd y bu ei ddiwedd yn ei ardal ei hun. Cyfraniadau gwirfoddol cyfeillion a ddiddorwyd ganddo a roes iddo gladdedigaeth weddus a charreg i nodi "man fechan ei fedd "; a'r perygl yw i'w straeon carlamus hefyd fynd i ddifancoll y llwch oni chronicler ambell un ohonynt ar gof a chadw mewn argraff.
Mi glywais lawer, ar ôl gado ardal fy mebyd, am y milgi rhyfedd hwnnw a redodd yn erbyn pladur yn y bwlch wrth erlid dwy ysgyfarnog, a'i hollti ei hun yn ddau hanner unffurf o'i drwyn i'w gynffon, y naill hanner yn dal un pryf, a'r hanner arall yn dal y llall! Ond o ben Shemi Wâd, mi gredaf, y daeth y stori honno ar y cychwyn, fel stori'r "daten fowr" y bu raid "ei blasto hi a mynd gatre â hi ar gart llusg yn bedwar pishyn!"
Mi glywais Shemi, â'm clustiau fy hun, yn adrodd y chwedlau hyn, a llawer o bethau cyffelyb nas clywais byth wedyn, ac yntau'n eu lleoli, wrth reswm, i'r diwrnod— yn y fan a'r lle!