felse fe'n rhoi rhyw snwshanad fowr. Gida hinni, dima'r milodd dinion—bob jac wan gyda'i gili—yn rhoi clatshen i'r tabirdde, a'r hen frenin, gida hinni, yn cirradd cic ar 'y nghrwper i. Cic? Meddiliwch am bedwar cant o geffile yn gillwng mâs atoch chi'r un pryd. Wel, tina shwt gic gesum i, nes own i'n hedfan trw'r awyr fel sgithan flwydd, a mynd a mynd a mynd heb argol stopo. Trwy drigaredd, wedd 'y mhen i mlân; ac fe allwn wrio taw deifo own i...
"Dima fi miwn i haid o frain, a'r rheini'n crowcan bwti 'mhen i ac yn cwmpo wrth y milodd gida shwt gered o'dd arna i. Miwn wedyn—head on—i gwmwl mowr o ddridws. Yr own i'n bluf ac yn stecs i gyd bwti 'mhen a 'nghluste, felse gwibed yn stico wrtho i. Ac wrth 'mod i'n crafu'r stecs o'm wmed, fe agores i'n lliged. Wel, jawch!' minte fi, Nid breuddwydo wdw i, ond mynd yn iawn trw'r awyr!' . . .
"Fe gofies wedyn, chi, 'u bod nhw'n seithu'r hen ganan mowr 'na bob bore i roi'r Greenwich time i'r coast guards. Wedd yr hen ganan hwnnw yn gallid towlu trigen