Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

milltir pan o'dd rhwbeth indo. A fi o'dd indo'r tro hyn! . . .

"'Shwt dwa i'n ôl yr holl ffordd 'ma wedi i fi ddishgin,' minte fi, 'a dim in 'y nghoden i? A shwt stopa i o gwbl os na fwra i yn erbyn rhwbeth? Dim ond gwagle mowr sy fini fan hyn.' . . .

"Dima fi'n gweld tŵr eglws o' mlân i. 'Os bwra i in erbyn hwn,' mintwn i, ' bydd hi'n dominô arna' i am weld gatre byth.' Dim ond 'i scapo fe nesum i; ond fe ddalodd blân 'y nhrŵed i yn yr hen geilog gwynt ar 'i ben e; a dima fe i lawr, dwmbwr— dambar, gida lot o gerrig a morter, ar ben 'y ffeirad, chi; a hwnnw'n gweiddi blw mwrder. Ond wedd 'da fi ddim amser i stopo i ecspleino dim. Sail on, wedd hi. Dim riffo'r hwyle tro hyn. Wedd e' wedi meddwl taw eryr own i; achos cliwes i e'n gweiddi wrth rywun: 'Look! look! There's an eagle!' Gâs e' eagle! . . .

"Trwy drigaredd, dima 'mhen i miwn i dwmpyn o gwmwle o'dd wedi'u gwasgu at 'i gili fel sache gwlân. Fe iawnes, chi,—' y nhrâd i lawr a 'mhen i fini. Ond gida