Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hinni, dina’n anal i mâs trw dop 'y mhen i! Yr own i wedi cwmpo lawr yn sudan bwti dwy filltir, a dim byd 'da fi i ddala wrtho! . . .

"Beth nesum i'n awr ond agor 'y nghot fowr a dala 'mreiche mâs fel pâr o adenydd. Fe dorro' hinni 'nghwdwm i ... A lle i chi'n meddwl dishginnes i? Ar slip y leiffbot dan Ben Cw! Os nad i chi'n 'nghredu i, cerwch lawr 'na. Ma' ôl 'y nghlocs i yn y siment y finid hon. Newy simento'r slip o'n nhw'r pryd hinni."

Dyna'r stori. Mor argyhoeddiadol ei diwedd fel y bu chwilio dyfal am ôl clocs Shemi wrth "dŷ'r leiffbot," a'r plant yn darganfod y dystiolaeth mewn mannau lawer yr un pryd!