Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn Berkhampstead hefyd y trigiannai W. W. Jacobs, yr awdur ffraethbert sydd wedi peri cymaint digrifwch â'i ddarluniau o hen longwyr a gwehelyth y porthfeydd. Lletyai dau o'm cydfilwyr dan ei gronglwyd ef, oblegid dofreithwyr oeddym oll yr adeg honno, a phob dosbarth o drigolion y dref yn ddigon parod i'n derbyn a'n gwneud mor gysurus ag y medrent.

Diangof fy more cyntaf ar faes y parêd, mewn sgwad o ryw ugain, a hen ringyll profiadol, wedi ei biclo'n dda dan haul y Dwyrain, yn ein cyfarwyddo. Dysgais wedi hynny fod i'r cyfarwyddwr gerwin hwnnw gryn lawer o natur dda, ond ei fod, yng nghwrs ei ddyletswyddau swyddogol, fel pob hen filwr, yn arfer yr un hen foddion ag a arferwyd ato ef ei hun, a dilyn yr un hen draddodiadau digyfnewid. Er enghraifft, creaduriaid a dorrodd galonnau eu mamau oedd pawb ohonom yn ei olwg ef; ond her inni oll gyda'n gilydd, myn diawl, dorri ei galon ef! Wrth reswm, creaduriaid felly a ymunai â'r fyddin pan dderbyniodd ef swllt y brenin. Yr oedd anallu prennaidd yr hen