Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ringyll i ymddeol oddi wrth amgylchiadau ei ddisgyblaeth ei hun yn broblem ddiddorol i mi mewn meddyleg. Gofynnodd imi unwaith beth oedd fy ngalwedigaeth cyn imi ymuno â'r fyddin. Pan atebais mai pregethwr oeddwn, dywedodd wrthyf am fynd i uffern gyda'r fath stori geiliog a tharw! Wrth reswm, fe gofir nad oedd raid i weinidogion a phersoniaid ddwyn arfau rhyfel hyd yn oed dan Fesur gorfodaeth. filwrol.

Yn y fintai fechan y bore cyntaf, Partington oedd enw'r milwr ar fy llaw ddehau—gŵr diwylliedig ac urddasol y caf yr hyfrydwch o'i weled heddiw yn awr ac eilwaith. Tomas—William Tomas—oedd enw'r milwr ar fy llaw aswy—rhyw lefnyn ysgyrnog yn onglau i gyd, a'i gyfansoddiad, a barnu wrth ei ddifrifoldeb a'i anorffwystra, yn storm o nerfau. Edrychai'n debyg i fardd; a phan ofynnais iddo, dan fy nannedd, ai Cymro ydoedd, edrychiad surllyd a gefais. Yr oedd ei fryd mor llwyr ar ddal pob sillaf a ddylifai o enau'r hen ringyll. Os aeth rhywun i'r fyddin i anghofio popeth ond