Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

milwria, Tomas oedd hwnnw. O leiaf, felly yr ymddangosai i mi y bore hwnnw.

Ein gwers gyntaf oedd dysgu ymffurfio'n llinell union y gallech redeg incil mesur yn gyfochrog â hi heb ei blygu. "Right dress" yw'r gorchymyn a ragflaena'r syllu i'r dde dros ysgwyddau eich gilydd, a'r gwingo a'r ymnyddu sy'n angenrheidiol cyn sicrhau'r uniondra hwnnw. Gan nad oes i'r gŵr

cyntaf yn y rheng gymar ar ei ochr ddehau, ei ddyletswydd ef yw sefyll yn stond, a'i lygaid digyffro'n edrych i'r gorwel pell, a'r ail ŵr yn ymysgwyd a sgriwio'i lygaid dros ei ysgwydd ddehau i syllu arno, y trydydd ar yr ail, y pedwerydd ar y trydydd; a'r un modd i lawr hyd waelod y rheng. Ar ôl i chwi ymwthio digon yn erbyn eich gilydd a syllu'n ddigon taer ar yr ysgwydd nesaf atoch i deimlo'n siŵr nad ydych yn gŵyro drwch y blewyn, fe ddaw'r gorchymyn "Eyes front" fel crac chwip; a dyna chwi'n rheng union o ymladdwyr smart rhagor na bod yn rheffyn igam-ogam fel cŵys gyntaf y glaslanc hwnnw a anelodd ei gwlltwr at