Tudalen:Ysgrifau (Dewi Emrys).djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fuwch ar ben y dalar heb ystyried bod y fuwch yn dal i symud!

Ar ôl iddo ddarlithio ar y pwnc holl-bwysig hwn am beth amser, dyma'r hen ringyll yn camu'n ôl a chyfarth: "Squad! Right dress! Jump to it!"

Neidio ati? Fe dreiodd Tomas neidio dros fy mhen. Wedi iddo fethu, disgynnodd, yn faglau i gyd, ar flaen fy nhroed chwith, a honno eisoes yn llosgi fel Gehenna gan bwys a gwasgfa esgidiau newydd y fyddin. Ar ôl dawnsio a gweiddi ennyd, plennais fy mhenelin yn ais fy nghymydog gorhoenus a dweud wrtho fy marn amdano ef a'i deulu oll hyd y nawfed ach.

Ar hyn, dyma'r hen ringyll ymlaen atom, a golwg ofnadwy arno. Gosododd flaen ei drwyn yn erbyn trwyn Tomas a syllu'n felltennog i eigion ei lygaid; a chefais innau, am y tro cyntaf, y fraint o wrando ar enghraifft nodedig o areithyddiaeth frwmstanaidd is-swyddogion y fyddin; a mynnaf dystio nad yw'r lled-gyfieithiad a ganlyn yn deilwng ohoni: