Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFIANT EDWARD MATTHEWS

Cofiant Edward Matthews, Ewenny. Gan J. J. Morgan. Cyhoeddedig gan yr Awdur. Pris, 10/6

FE gymer y llyfr yma'i le yn rhwydd ym mysg rhyw naw neu ddeg os nad llai na hynny, o'r cofiannau Cymreig goreu. Deil ei gymharu a Chofiant John Jones, Tal Sarn, gan Owen Thomas; Christmas Evans gan y Dr. Owen Davies; Llyfr Saesneg Mr. D. E. Jenkins ar Charles o'r Bala, a rhyw ychydig iawn y byddaf yn siwr o gofio am danynt ar ol danfon hwn i ffwrdd. Cofiant clasurol ydyw, y bydd gwiw, ac y bydd raid yn wir, i bawb a 'sgrifenno ar Grefydd Cymru yn y ganrif ddiweddaf ymgynghori ag ef.

Dau fath o gofiant yn y cyffredin y sydd, un wedi ei rannu'n gyfnodau, a'r llall wedi ei rannu'n ol agweddau i fywyd y gwrthrych. Y mae hwn yn cyfuno'r ddau. Cawn i ddechreu benodau tra chyflawn a difyr ar gyfnodau oes Matthews, amryw o honynt wedi eu teitlo oddiwrth y mannau y preswyliodd ynddynt—megis "Hirwaen," "Penllin," "Ewenni," Caerdydd,' "Pen y Bont ar Ogwr." Ydyw, y mae Ogwr yn gywir gan Awdur y cofiant hwn, fel popeth arall bron. Rhyw drachwant rhyfedd sy arnom ni Gymry am ddodi "wy " yn derfyniad lle bynnag y gwelom ni ddŵr—" Ogwy," "Banwy," "Fyrnwy," y ddau ddiweddaf yn lle "Banw" "Fyrnyw." Gyda llaw, buasai 'n llawn gwell gan rai spelio enwau cyfansawdd ar leoedd, naill ai yn eiriau ar wahân, neu yn rhannau a chydnod rhyngddynt Pen-Llin, Pen-Hydd, Pont-y-Pridd. Wrth yrru tele-