Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gram yn unig y bydd edifar gennyf ddilyn John Rhys ar hyn o bwnc, a rhoi geiriau gwahân. Fe allai fod Mr. Morgan yn hyn yn canlyn arfer Matthews ei hun, a'r arfer oedd gan lawer ychydig amser yn ol; ond geiriau gwahân neu rai wedi eu clymu a chydnod sy'n ateb oreu i'r swn. Heblaw hynny, nid oes gennym ddim ffordd arall o wahaniaethu rhwng enwau fel Pentyrch a Phen-Tyrch.

Wedyn cawn benodau rhagorol ar deithi 'r gwrthrych yng ngwahanol gysylltiadau bywyd. Yr oedd llwyr angen hynny yn yr amgylchiad hwn yn enwedig, gan fod Edward Matthews yn un y cyfarfyddai ynddo'r fath amrywiaeth o deithi, ac yn un a apeliai mor wahanol at wahanol rai. Nid yw'r awdur yn y penodau hyn wedi ymdynghedu i glodfori, ond mynegi yn hollol y peth fel y mae.

Wrth adolygu llyfrau, chwilio y byddis ambell i waith am rywbeth i'w ganmol; a rhyfedd gymaint a geir ond chwilio mewn llyfr go gyffredin; ond yn hwn. chwilio am rywbeth i'w feirniadu sy raid.

Y mae llawer o'r hanes yn adlais o iaith Matthews ei hun; lle y crynhoir, neu roddi atgofion o bregethau, gofelir gwneuthur hynny hefyd yn arddull y pregethwr. Os clywch chi rywun yn adrodd Matthews, a deud "welwch chi?" yn lle "gwelwch chi"? chì ellwch benderfynu nad yw hwnnw ddim yn gofiwr cywir. Ymddengys fod y ffurf yna ar frawddeg holi mewn rhannau o'r Deheudir—" Gallwch chi, gwyddoch chi?" ac yn y blaen. Cyfrifir ef yn wall mewn Cymraeg lên; ond fe lithrodd i fewn i aml i damaid o gân, ac weithiau i ryddiaith hefyd. Dacw gân blant a ddaeth allan ychydig flynyddoedd yn ol, a'r gwall ynddi :

"Golchwyd chwi'n afon bur gwaed yr Oen?"

a'r peth yn gwestiwn. "Gwelwch chi?" sy ymhob man gan Morgan. Ac yn hyn, a channoedd o fân