Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bethau eraill fe atgynyrchir dull Matthews a phriodwedd ei frawddegau i drwch y blewyn.

Weithiau, ryw un tro o ugain dyweder, fe bair Mr. Morgan i ni ameu onid yw wedi rhoi gair yng ngenau Matthews nad arferasai ef mo hono; ond gall fod y dyfaliad yn gwbl gyfeiliornus. Wrth adrodd pregeth hynod iawn ar Berson Crist, rhoddir y gair delfrydol (tud. 234), "y dyn delfrydol." A oedd delfryd " a "delfrydol" wedi dyfod i arferiad y pryd hwnnw? Yn sicr nid oeddynt wedi dyfod yn gyflawn aelodau efo'r Methodistiaid. Gair Wesleaidd oedd " delfryd ' yn amser Matthews. Y mae wedi dyfod yn Fethodist Calfinaidd erbyn hyn. Ond lled geidwadol oedd Matthews, at ei gilydd, yn ei arfer o eiriau, fel y dywed Morgan (tud. 406), y bu amser pan oedd yntau'n chwannog i eiriau mawr, chwyddedig. "Yr oedd dros 30 oed cyn taflu oddiwrtho'r "ewynfawr eiriau anferth" a gamgymerir gan gynifer am hyawdledd. Syndod i'r byd, y mae'r llythyrau yn 1840 ar waith blaenor ym mron yn hollol lân oddiwrth y meflau hyn. Rhaid fod Evan Morgan, Caerdydd, y llenor dillyn, wrth ei benelin, yn tynnu'r hirbluf yn ddidrugaredd o adanedd ac o gynffon pob brawddeg." Aeth llenor Cymraeg arall drwy'r unrhyw weddnewidiad, Lewis Edwards o'r Bala. Y mae ar gael rhyw bregeth Saesneg a draddododd ef yn Sir Gaerfyrddin, mewn Sasiwn, yn y dyddiau yr oedd farnis yr athrofeydd heb orffen sychu arno, lle y disgrifir y ddaear fel "this sublunary orb "—chwyddedigaeth y buasai ef ei hun, ychydig flynyddoedd wedyn, yn ei gystwyo yn ddiarbed. Dywedai John Nicol, Glasgow, wrth ben rhyw draethawd go hedegog, "Don't mistake me. don't object to flowers, for flowers mean fruit." "Nid yw waeth gennyf gael blodau, waith y mae blodau'n golygu ffrwyth."

Y mae "Mebyd a Maboed" yn deitl pennod. Yr un peth yw ystyr y ddau. Ar d. 121 cawn "enwebai"