yn golygu "nominate." Gwnaethai "enwi" y tro yn burion yn lle "enwebu."
Ar dud. 81 cawn hwn: "Trefnodd y Cyfarfod Misol i gynnal pump o gyfarfodydd pregethu." Gwall a gychwynodd yng Nghymraeg llafar y De yw "trefnodd i gynnal." Ceir ef yn emynau Williams Pant y Celyn; ac ni newidiwn i mo hono yno; ond nid yw i'w efelychu ddim. "Trefnodd. . . gynnal" a ddylasai hwn fod.
Ceir "mwyrif" mewn dau neu dri o fannau yn lle "mwyafrif." "Y mwyaf o'r ddau " a ddywed y Cymro, nid y "mwy."
Cwestiwn heb ei benderfynu ydyw bryd y dylai 'sgrifennwr ei alw 'i hun yn "ni." Gwnai Matthews hynny o hyd yn nodiadau'r " Cylchgrawn"; ond dyna oedd defod gyson y wasg newyddiadurol ar y pryd. Gwnai Lewis Edwards yn y Traethodydd yr un peth. Ac y mae'n gofyn i olygydd beth bynnag siarad yn y rhif lliosog fel cynrychiolydd ei bapur neu ei gylchgrawn. Y mae yn weddeiddiach i awdur heb fod yn olygydd wneud yr un peth yn aml, yn lle bod yn fyfi"; ond tueddu at yr unigol y mae'r ddefod, yn Saesneg ac yn Gymraeg yrŵan. Mi dybiwn mai rhy chwannog i'r "ni" llenyddol yw Mr. Morgan os yr un. Dyma er enghraifft frawddeg lle y buasai'r unigol yn well. "Cawsom y fraint o fod yn y Sasiwn a'r oedfa hon yn llaw ein tad." "We and our wife went to see the Crystal Palace."
Yn y bennod wych ar ddull Edward Matthews yn y pulpud, fe ddatgan Mr. Morgan syndod fod gŵr mor barchus o'r Beibl a Matthews yn trin dalennau'r llyfr mor ddibris; ac edrydd amryw ystorïau tarawgar iawn ar hynny o bwnc. Ni allwn ninnau lai na synnu bod gŵr mor barchus o'r Beibl a Mr. Morgan mor chwannog i addurno 'i frawddegau ag Ysgrythyrau wedi eu llusgo o'u cysylltiadau. Yr wyf ym mhell o feddwl fod hyn yn fai llenyddol yn y rhan fwyaf o'r