Ac fel yr oedd yn ymarhous hynod yn nyddiau ei gnawd, felly y bu o wedyn yn ei Eglwys. Wedi i'r Apostolion lenwi'r byd y gwyddent hwy am dano â'r Efengyl, fe fu rhai o honynt hwy fyw digon o hyd i weld rhai o'r dychweledigion mwyaf addawol yn troi yn ol; eglwysi cyfain yn colli eu cariad cyntaf. Ac wedi i'r erledigaeth beidio, ac i'r Eglwys ddringo i awdurdod yn Llywodraeth Rhufain dan nawdd Cystenyn, 'doedd pethau fawr well. Fe ddaeth llygredigaeth i mewn trwy'r un drws â'r dyrchafiad daearol a rowd i Eglwys Iesu Grist. Trwy'r canol oesoedd drachefn 'doedd yr Eglwys ddim heb ryw ymdrech newydd o hyd i'w phuro ei hun. Codai urdd ar ol urdd o fynachod, rhai yn weinidogion sefydlog a rhai yn bregethwyr teithiol,—treio pob ffordd i edfryd purdeb a symledd i blith Cristionogion, ond dim byd yn tycio. Yr oedd y mynachod hyn ym mhen rhyw genhedlaeth neu ddwy yn llygru yr un fath a'r rhai y codid hwy i'w gwella. Dyna ddrwg mawr y Canoloesoedd. Nid na fu yn y canrifoedd hynny ddiwygiadau, rhai o'r diwygiadau mwyaf welodd y byd erioed, ond fod y diwygiadau ar ol eu myned heibio yn hynod ddiffrwyth. A'r un peth yw hanes y Diwygiad mawr, y Diwygiad Protestanaidd. Pan yr oedd y cynnwrf yn ei nerth, buasid yn tybio fod y don yn golchi dros Orllewin Ewrop i gyd; ond erbyn i'r don fynd yn ei hol dacw lawer o'r tir y bu hi arno yn sych a diymgeledd fel o'r blaen. Dacw Ffrainc, cartref y Protestaniaid mwyaf grymus, cyn pen can mlynedd ar ol y Diwygiad, wedi mynd yn Babyddol ac yn Anffyddol dros ben. Yr un peth ydyw hanes Diwygiadau Cymru; pawb yn dyfod i'r seiat; mae'r gwaith chi allech dybied i gyd ar ben; ond erbyn i chwi wneud cyfrif i fyny ar ddiwedd y flwyddyn, a chofio fod rhai o'r dychweledigion wedi gwrthgilio, a rhai wedi eu diarddel, nid ydych ond bron yn yr un fan. Y mae'r gwersyll wedi symud peth, ond y mae
Tudalen:Ysgrifau Puleston.djvu/144
Gwedd