wedi crwydro llawer mwy. Nid yw'r ffrwyth arhosol ddim cymaint o lawer ag y buasid yn disgwyl iddo fod pan oedd y cynnwrf yn ei lawn nerth. Nid hanes rhyw un neu ddau o ddiwygiadau yng nghorff y pymtheg mlynedd diweddaf yr wyf yn ei adrodd, ond hanes pob diwygiad o ddyddiau'r Apostolion hyd yn awr. Y mae Iesu Grist eto megis cynt fel pe buasai yn deud wrth y rhai a iacheir ganddo, "Gwelwch nas gwypo neb." Araf ryfeddol y mae yn dwyn ei waith ymlaen. Nid yw yn cymryd o lawer bob cyfle y buasai dynion yn disgwyl iddo i gymryd i gael ei wneuthur yn Frenin. Pan feddylioch chi cyn lleied o'r byd yma ŵyr am Iesu Grist, ac o'r rhai ŵyr am dano faint sydd yn ei barchu, o'r rhai sydd yn talu rhyw wrogaeth arwynebol iddo, faint sydd yn credu ynddo fel yr ydych chwi yn ceisio gwneud; ohonoch chwithau a gyfrifir yn ddisgyblion iddo, faint sydd yn dangos i'r byd pa fath un oedd y Gwaredwr ei hunan;—pan ystyrioch chi hyn, onid yw yn syndod fod y Mescia mawr mor ymarhous? Pam, wedi'r lludded a'r llafur, wedi'r dagrau a'r gweddio mynych, y mae teyrnas nefoedd wedi'r cwbl yn mynd i le mor fychan? Pam y mae'r Hwn biau'r gwaith mor ddi-gynnwrf? "Nid ymryson efe ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd."
Y mae hyn yn fwy syn fyth pan gofiom ni mai Buddugoliaeth ydyw'r gair sydd yn niwedd y testun, "Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth." Wel, os buddugoliaeth sydd o'i flaen, pam y mae mor ymarhous, mor hamddenol ynghylch ei hennill hi?
I. Yn un peth, am mai Buddugoliaeth Duw ydyw ei fuddugoliaeth Ef, "Wele, fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn foddlawn; neu i'r hwn yr ymfoddlonodd fy enaid. Digwydd sydd yma, nid teimlad gwastadol Duw at ei Fab yn gymaint; gweithred o eiddo Duw